Does na ddim byd rhy ecseiting di bod yn digwydd yn fy mywyd yn ddiweddar sydd efallai yn esbonio fy obsesiwn efo big brother, ac er bod o heb ddecharu eto, y world cup. Dwi'n gwbod bod big brother yn rwtsh a bod pawb yn uffar o annoying arno ond mae o wir fel cuffur ac allai'm peidio ei wylio hyd yn oed taswn i isio. I fopd yn onest mae on werth tiwnio mewn bob noson jysd i weld Glyn, sydd yn glasur chaware teg iddo, gyda'i berlau fel "ai rili haf lyrnd some laiff sgils in hiyr, ai can cwc naw and meic a sandwich and bins on tost!"
A dwi'n gwbod bod o heb ddechrau eto, ond y world cup yw fy ail obsesiwn ar y foment. Dwi'n dilyn y build up yn y newyddion (gan weddio yn ddyddiol bo troed rooney yn mynd i ddal gangrin), ma gennai fy wal chart a dwi'n helpu sortio'r sweepstake yn gwaith! Y socceroos (awstralia) fydda i'n eu cefnogi (wel tan ar ol y group stages beth bynnag!) gan bod yr hanner arall yn dod o awstralia. Ond eto fyth fydd na ddim byd yn well na gweld Lloegr yn gwneud yn wael, gan obeithio y byddan nhw'n crasio allan ar penalties yn erbyn Argentina!
Ac efo'r tour de france yn dechrau cyn i'r world cup hyd yn oed orffen, fydd na'm gobaith i unrhywun weld fi am y ddau fis nesa!