Euro 2008 - peodowch a bwcio eich ticedi eto!

WEl ma nhw newyd bigo'r grwpiau cwaliffeio ar gyfer Euro 2008,a man rhaid dweud mae on edrych unwaith eto nad oes gennym obaith! Er dwn i'm be on in ddisgwyl ei weld.

Group D
Czech Republic
Germany
Slovakia
REP OF IRELAND
WALES
Cyprus
San Marino

O leia ma genna ni obaith efo San Marino, a fydd chwarae Iwerddon yn hwyl (er colli hwnna wnawn ni fyd mwn!) ONd Czech Republic a'r Almaen!! Ond o leia mar gemau yma yn rhoi siwns i niw eld chwaraewyr goraur byd yn chwarae yn erbyn ein chwarawyr ni o'r chiampionship. Er sa fon gallu bod yn waeth drychwch ar grwp yr Alban! Ffrainc, Eidal a'r Ukraine! Er fel ffan pel dored swn in caru gweld Ffrainc yn chwarae.

Group B
France
Italy
Ukraine
SCOTLAND
Lithuania
Georgia
Faroe Islands

addoli wrth allor Primark

Reit dwim isio neb i fy ngyhuddo o fod yn chav ond heediw bron i fi biso yn fy nhrwsus pan es i siop newydd primark yn dre. Dwin gwbod odd yr hen un yn mingin, ond os da chin glyfara selective iawn ma na fargeinion lu iw cael. Ac yn y siop newydd ma nabedwar llawr o fargeinion, a tydio ddim yn scanky mwyach. Er nae nhw wedi cymryd yr hwyl allan o siopa yn Primark, byth eto fydd raid i chi gwffio efo genod ifanc a'u prams i gael at y dillad na chwilota mewn peils o jympyrs am bum munud i ffeindio'r maint iawn. Ond ges i jeans a dau dop yn reit ffwdan am £24 ac ar y foment pan dwin sgintos joni mintos ma hynna yn fy ngwneud yn hapus iawn!

di penderfynu bo hin hen bryd i fi ail ddechrau'r busens blogio ma, dwi di bod i ffwrdd yn rhy hir. Ond chwarae teg mae gennai esgus - ath pethau bahc yn chwal diwedd ein trip yn Awstralia felly blogio odd y oeth ola ar fy meddwl a don im yn agos i gyfrifiadur yn ddigon hir, ac ers dod nol ma fy holl egni ac amser di mynd at ffeindio rhywle i fyw a cael job - a wedyn gweithio dau job a oedd dwin siwr yn llwyr mynd yn erbyn pob rheol ewropeaidd ar oriau gwaith. Ond hei ho on in skint ar ol byw the life of riley yn oz!

Ond ma petha di gwella wan gan bo fi di cale joban go iawn so nol i normalwydd bywyd!