UDA yn y sweepstake!

Dwi di pigo'r UDA yn y sweepstake yn gwaith sy'n da i ddim, ond dydi fy £2.50 ddim wedi mynd i wastraff eto gan bod gennym gystadleuaeth ychwanegol ble ma rhaid i ni gesio pwy fydd yn ennill pob gem, a pwy fydd top scorer ayyb. am bob un da ni'n ei gael yn gywir da no'n cael pwynt a mae na wobr yn mynd i'r tri gorau. felly dwi'n dal fy ngwynt mai Brazil ac Argentina fydd yn y ffeinal!!