coc yp cyfieithu

ma na goc yp cyfieithu or radd ora di digwydd ar arwydd ffordd ym Mhenarth. Gweler y stori ar wefan y BBC. Sut yn union da chin cael 'Llid y bledren dymchwelyd' o 'Cyclists dismount'???? Dyna wers i Gyngor Bro Morgannwg ar ddefnyddio system gyfieithu arlein!!

Llundain, New York ... Bermo???

Stori ar wefan y BBC heddiw yn deud bod yr enwog Weigh Out yn Bermo wedi cael ei enwi yn un or' can siop gorau yn y byd!!!

Weigh Out yw'r unig siop yng Nghymru ar y rhestr sydd yn cynnwys Selfirdges a Bollmingdales!!

O'n i yn weigh out yr wythnos dwytha i gael bag o pick n mix ar gyfer y tren nol i Gaerdydd. Siop ffab sydd yn gwerthu popeth o da da's i flawd a speisys, ac yn lot rhatach na'ch archfarchnad lleol.